1. Clywodd Sanbalat, Tobeia, Geshem yr Arab, a'r gelynion eraill fy mod wedi ailadeiladu'r wal a cau'r bylchau i gyd (er fod drysau'r giatiau ddim wedi eu gosod yn eu lle bryd hynny).
2. A dyma fi'n cael neges gan Sanbalat a Geshem yn gofyn i mi eu cyfarfod yn un o'r pentrefi ar wastatir Ono. Ond roedden nhw'n bwriadu gwneud rhyw ddrwg i mi.
3. Felly dyma fi'n anfon neges yn ôl yn dweud, “Dw i'n gwneud gwaith pwysig, ac felly alla i ddim dod. Alla i ddim gadael i'r gwaith stopio er mwyn dod i'ch cyfarfod chi.”
4. Dyma nhw'n cysylltu i ofyn yr un peth bedair gwaith, a rhois yr un ateb iddyn nhw bob tro.
5. Yna'r pumed tro dyma Sanbalat yn anfon ei was gyda llythyr agored yn ei law.