Nehemeia 5:5-14 beibl.net 2015 (BNET)

5. Dŷn ni wedi gorfod rhoi ein meibion a'n merched i weithio fel caethweision i bobl er ein bod ni a'n plant o'r un genedl ac yn rhannu'r un gwaed â nhw. Mae rhai o'n merched wedi cael eu cymryd oddi arnon ni, a dŷn ni'n gallu gwneud dim am y peth, am fod ein tir a'n gwinllannoedd yn nwylo pobl eraill.”

6. Roeddwn i'n wyllt pan glywais i am hyn i gyd.

7. Yna ar ôl ystyried y sefyllfa'n ofalus, dyma fi'n penderfynu mynd at y bobl fawr a'r swyddogion i gwyno: “Dych chi i gyd yn codi llogau ar ddyledion eich pobl eich hunain!”A dyma fi'n galw cyfarfod cyhoeddus i ddelio gyda'r peth.

8. Dwedais yno, “Dŷn ni wedi gwneud popeth allwn ni i brynu'n ôl ein cyd-Iddewon sydd wedi eu gwerthu i'r cenhedloedd. A nawr dyma chi'n gwerthu eich pobl eich hunain i'ch gilydd!” Doedden nhw'n gallu dweud dim. Doedd ganddyn nhw ddim ateb.

9. Yna dyma fi'n dweud, “Dydy beth dych chi'n ei wneud ddim yn iawn! Dylech fyw mewn ffordd sy'n dangos parch at Dduw. Fyddai ddim rhaid i chi ddiodde eich gelynion, y cenhedloedd, yn eich gwawdio chi wedyn!

10. Dw i a'm perthnasau a'r rhai sydd gyda ni yn benthyg arian ac ŷd i bobl. Rhaid stopio'r busnes yma o gymryd tir a thai pobl i dalu dyledion!

11. Rhowch bopeth yn ôl iddyn nhw heddiw – eu caeau, eu gwinllannoedd, eu coed olewydd a'u tai, a'r llogau dych chi'n eu cymryd am fenthyg arian, ŷd, sudd grawnwin, ac olew olewydd iddyn nhw.”

12. A dyma nhw'n ateb, “Gwnawn ni roi'r cwbl yn ôl, a stopio hawlio dim oddi arnyn nhw. Byddwn ni'n gwneud yn union fel rwyt ti'n dweud.” Yna dyma fi'n galw am offeiriaid a gwneud i'r bobl gyfoethog a'r swyddogion fynd ar eu llw y bydden nhw'n cadw eu gair.

13. A dyma fi'n ysgwyd popeth o bocedi fy nillad, a dweud, “Dyma fydd Duw yn ei wneud i chi os fyddwch chi ddim yn cadw eich gair. Byddwch yn colli eich tai a'ch eiddo. Bydd yn eich ysgwyd chi a byddwch yn colli popeth!” A dyma pawb yn y gynulleidfa yn ateb, “Ia, wir! Amen!” ac addoli'r ARGLWYDD. Yna gwnaeth y bobl beth roedden nhw wedi ei addo.

14. O'r diwrnod cyntaf y ces i fy ngwneud yn llywodraethwr Jwda – sef o'r ugeinfed flwyddyn i flwyddyn tri deg dau o deyrnasiad y brenin Artaxerxes (un deg dwy o flynyddoedd i gyd) – wnes i a'm teulu ddim bwyta'r bwyd oedd yn cael ei roi i'r llywodraethwr.

Nehemeia 5