Nehemeia 5:16-19 beibl.net 2015 (BNET)

16. Es i ati fel pawb arall i weithio ar y wal, a wnes i ddim prynu tir i mi fy hun. Ac roedd fy staff i gyd yn gweithio yno hefyd.

17. Roedd cant a hanner o bobl, swyddogion yr Iddewon, yn bwyta gyda mi'n rheolaidd, heb sôn am ymwelwyr oedd yn dod o wledydd eraill.

18. Bob dydd roedd un ychen, chwech o'r defaid gorau, a ffowls yn cael eu paratoi i mi, heb sôn am ddigonedd o win o bob math oedd yn cael ei roi i mi bob deg diwrnod. Er hynny, wnes i ddim hawlio'r bwyd oedd yn cael ei roi i'r llywodraethwr, am fod y baich yn drwm ar y bobl.

19. O Dduw, cofia hyn o'm plaid i – popeth dw i wedi ei wneud i'r bobl yma.

Nehemeia 5