Nehemeia 5:1-9 beibl.net 2015 (BNET)

1. Ond wedyn dyma rai o'r dynion a'u gwragedd yn dechrau cwyno a protestio am eu cyd-Iddewon.

2. Roedd rhai yn dweud, “Mae gynnon ni deuluoedd mawr, ac mae angen lot o ŷd arnon ni i allu bwyta a byw.”

3. Roedd eraill yn dweud, “Dŷn ni'n gorfod morgeisio ein tir a'n gwinllannoedd a'n tai er mwyn prynu ŷd i osgoi llwgu.”

4. Ac eraill eto, “Dŷn ni wedi gorfod benthyg arian i dalu trethi i'r brenin ar ein tir a'n gwinllannoedd.

5. Dŷn ni wedi gorfod rhoi ein meibion a'n merched i weithio fel caethweision i bobl er ein bod ni a'n plant o'r un genedl ac yn rhannu'r un gwaed â nhw. Mae rhai o'n merched wedi cael eu cymryd oddi arnon ni, a dŷn ni'n gallu gwneud dim am y peth, am fod ein tir a'n gwinllannoedd yn nwylo pobl eraill.”

6. Roeddwn i'n wyllt pan glywais i am hyn i gyd.

7. Yna ar ôl ystyried y sefyllfa'n ofalus, dyma fi'n penderfynu mynd at y bobl fawr a'r swyddogion i gwyno: “Dych chi i gyd yn codi llogau ar ddyledion eich pobl eich hunain!”A dyma fi'n galw cyfarfod cyhoeddus i ddelio gyda'r peth.

8. Dwedais yno, “Dŷn ni wedi gwneud popeth allwn ni i brynu'n ôl ein cyd-Iddewon sydd wedi eu gwerthu i'r cenhedloedd. A nawr dyma chi'n gwerthu eich pobl eich hunain i'ch gilydd!” Doedden nhw'n gallu dweud dim. Doedd ganddyn nhw ddim ateb.

9. Yna dyma fi'n dweud, “Dydy beth dych chi'n ei wneud ddim yn iawn! Dylech fyw mewn ffordd sy'n dangos parch at Dduw. Fyddai ddim rhaid i chi ddiodde eich gelynion, y cenhedloedd, yn eich gwawdio chi wedyn!

Nehemeia 5