Nehemeia 4:3-15 beibl.net 2015 (BNET)

3. A dyma Tobeia o Ammon, oedd yn sefyll gydag e, yn dweud, “Byddai'r wal maen nhw'n ei chodi yn chwalu petai llwynog yn dringo arni!”

4. “O ein Duw, gwrando arnyn nhw'n ein bychanu ni! Tro eu dirmyg arnyn nhw eu hunain! Gwna iddyn nhw gael eu cipio i ffwrdd fel caethion i wlad estron!

5. Paid maddau iddyn nhw na cuddio eu pechodau o dy olwg! Maen nhw wedi cythruddo'r rhai sy'n adeiladu!”

6. Felly dyma ni'n ailadeiladu'r wal. Roedd hi'n gyfan hyd at hanner ei huchder ac roedd y bobl yn frwd i weithio.

7. Ond pan glywodd Sanbalat a Tobeia, yr Arabiaid, pobl Ammon a pobl Ashdod fod y gwaith o adfer waliau Jerwsalem yn dod yn ei flaen cystal, a bod y bylchau yn y wal yn cael eu cau, roedden nhw'n wyllt.

8. A dyma nhw'n cynllwynio gyda'i gilydd i ymosod ar Jerwsalem a chreu helynt.

9. Felly dyma ni'n gweddïo ar ein Duw, a gosod gwylwyr i edrych allan amdanyn nhw ddydd a nos.

10. Ond yna dyma bobl Jwda yn dechrau dweud,“Mae'r gweithwyr yn blino a stryffaglu,ac mae cymaint o rwbel.Does dim gobaith i ni adeiladua gorffen y gwaith ar y wal!”

11. Roedd ein gelynion yn brolio, “Cyn iddyn nhw sylweddoli beth sy'n digwydd, byddwn ni yn eu canol yn eu lladd nhw, a bydd y gwaith yn dod i ben!”

12. Roedd yr Iddewon oedd yn byw wrth eu hymyl nhw wedi'n rhybuddio ni lawer gwaith, “Dylech chi ddod yn ôl aton ni, maen nhw'n cynllwyn i ymosod.”

13. Felly dyma fi'n gosod pobl i amddiffyn y rhannau isaf, tu ôl i'r wal yn y mannau mwyaf agored. Gosodais nhw bob yn glan, gyda cleddyfau, gwaywffyn a bwâu.

14. Yna ar ôl edrych dros y cwbl, dyma fi'n codi i annerch yr arweinwyr, y swyddogion, a gweddill y bobl, a dweud, “Peidiwch bod a'u hofn nhw. Cofiwch mor fawr a rhyfeddol ydy'r Meistr! Byddwch barod i ymladd dros eich pobl, eich meibion, eich merched, eich gwragedd a'ch cartrefi!”

15. Pan glywodd ein gelynion ein bod ni'n gwybod am eu cynllwyn, dyma Duw yn eu rhwystro nhw. Felly dyma pawb yn mynd yn ôl i weithio ar y wal.

Nehemeia 4