22. Yr offeiriaid oedd yn gweithio ar y darn nesaf – dynion oedd yn byw yn y cylch.
23. Wedyn Benjamin a Chashwf yn gweithio gyferbyn â'u tŷ nhw. Asareia fab Maaseia ac ŵyr Ananeia, yn gweithio wrth ymyl ei dŷ e.
24. Binnŵi fab Chenadad yn gweithio ar y darn nesaf, o dŷ Asareia at y bwtres ar y gornel.
25. Wedyn Palal fab Wsai yn gweithio gyferbyn â'r bwtres a'r tŵr sy'n sticio allan o'r palas uchaf wrth ymyl iard y gwarchodlu. Yna roedd Pedaia fab Parosh
26. a gweision y deml oedd yn byw ar Fryn Offel yn gweithio ar y darn i fyny at Giât y Dŵr i'r dwyrain lle mae'r tŵr sy'n sticio allan.
27. Wedyn dynion Tecoa eto yn gweithio ar y darn o'r tŵr mawr hwnnw i wal Bryn Offel.
28. Offeiriaid oedd yn gweithio yr ochr uchaf i Giât y Ceffylau hefyd, pob un o flaen ei dŷ ei hun.
29. Sadoc fab Immer yn gweithio gyferbyn â'i dŷ e, a Shemaia fab Shechaneia, porthor Giât y Dwyrain, yn gweithio ar y darn nesaf.
30. Wedyn Chananeia fab Shelemeia a Chanŵn, chweched mab Salaff, yn gweithio ar ddarn arall. Yna, ar eu holau nhw, Meshwlam fab Berecheia yn gweithio ar y darn gyferbyn â'r ystafell lle roedd e'n byw.
31. Wedyn Malcîa, un o'r gofaint aur, yn gweithio ar y darn hyd at lety gweision y deml a'r masnachwyr, gyferbyn â Giât y Mwstro, ac i fyny at yr ystafell uwchben y gornel.
32. Yna roedd y gofaint aur a'r masnachwyr yn gweithio ar y darn olaf, o'r ystafell uwchben y gornel at Giât y Defaid.