Nehemeia 13:18-31 beibl.net 2015 (BNET)

18. Onid dyma sut roedd eich hynafiaid yn ymddwyn, a gwneud i Dduw ddod â'r holl helynt arnon ni a'r ddinas yma? A dyma chi nawr yn gwneud pethau'n waeth, a gwneud Duw'n fwy dig eto gydag Israel drwy halogi'r Saboth fel yma!”

19. Dyma fi'n gorchymyn fod giatiau Jerwsalem i gael eu cau pan oedd hi'n dechrau tywyllu cyn y Saboth, a ddim i gael eu hagor nes byddai'r Saboth drosodd. Yna dyma fi'n gosod rhai o'm dynion fy hun i warchod y giatiau a gwneud yn siŵr fod dim nwyddau yn dod i mewn ar y Saboth.

20. Arhosodd y masnachwyr a'r rhai oedd yn gwerthu gwahanol nwyddau tu allan i Jerwsalem dros nos unwaith neu ddwy.

21. Ond dyma fi'n eu rhybuddio nhw, “Os gwnewch chi aros yma dros nos wrth y wal eto, bydda i'n eich arestio chi!” Wnaethon nhw ddim dod yno ar y Saboth o hynny ymlaen.

22. Yna dyma fi'n dweud wrth y Lefiaid am fynd trwy'r ddefod o buro eu hunain, a dod i warchod y giatiau er mwyn cadw'r Saboth yn ddiwrnod sbesial, cysegredig.O Dduw, plîs cofia fy mod i wedi gwneud hyn. Dangos dy gariad rhyfeddol ata i drwy fy arbed i.

23. Yr adeg yna hefyd dyma fi'n darganfod fod llawer o Iddewon wedi priodi merched o Ashdod, Ammon a Moab.

24. Roedd hanner y plant yn siarad iaith Ashdod neu ieithoedd rhyw bobloedd eraill. Doedden nhw ddim yn gallu siarad Hebraeg.

25. Felly dyma fi'n dod â cwyn yn eu herbyn nhw. Dyma fi'n galw melltith arnyn nhw, yn curo rhai o'r dynion, a tynnu eu gwallt. A dyma fi'n gwneud iddyn nhw fynd ar lw o flaen Duw, “Dych chi ddim i roi eich merched yn wragedd i'w meibion nhw, na chymryd eu merched nhw yn wragedd i'ch meibion nac i chi'ch hunain!

26. Onid dyma'r math o beth wnaeth i Solomon, brenin Israel, bechu? Doedd dim brenin tebyg iddo drwy'r gwledydd i gyd. Roedd yn annwyl yng ngolwg ei Dduw, a dyma Duw yn ei wneud yn frenin ar Israel gyfan. Ond dyma'r gwragedd o wledydd eraill yn gwneud hyd yn oed iddo fe bechu!

27. Felly ydy'n iawn i ni oddef y drwg yma dych chi'n ei wneud? Dych chi'n bod yn anffyddlon i Dduw yn priodi'r merched estron yma!”

28. Roedd un o feibion Jehoiada, mab Eliashif yr archoffeiriad, wedi priodi merch Sanbalat o Horon. A dyma fi'n gwneud iddo adael y ddinas.

29. O Dduw, paid anghofio beth maen nhw wedi ei wneud. Maen nhw wedi halogi'r offeiriadaeth, a'r ymrwymiad mae offeiriaid a Lefiaid yn ei wneud.

30. Felly dyma fi'n eu puro nhw o bob dylanwad estron, ac yn rhoi cyfrifoldebau penodol i'r offeiriaid a'r Lefiaid.

31. Dyma fi hefyd yn trefnu amserlen i roi coed i'w losgi ar yr allor, a cynnyrch cyntaf y tir.O Dduw, cofia hyn o'm plaid i.

Nehemeia 13