8. Ieshŵa, Binnŵi, Cadmiel, Sherefeia, Jwda, a Mataneia yn gyfrifol am y caneuon mawl.
9. Bacbwceia ac Wnni a'u cydweithwyr yn sefyll gyferbyn â nhw yn y gwasanaethau.
10. Roedd Ieshŵa yn dad i Ioiacim, Ioiacim yn dad i Eliashif, Eliashif yn dad i Ioiada,
11. Ioiada yn dad i Jonathan, a Jonathan yn dad i Iadwa.
22. Wedyn, fel yr offeiriaid, cafodd y Lefiaid oedd yn arweinwyr eu claniau nhw eu rhestru (o gyfnod yr archoffeiriaid Eliashif, Ioiada, Iochanan a Iadwa hyd deyrnasiad Dareius o Persia).
23. Roedd cofrestr o'r Lefiaid oedd yn arweinwyr claniau hyd gyfnod Iochanan wedi ei gadw yn sgrôl y cofnodion hanesyddol.
24. Arweinwyr y Lefiaid: Chashafeia, Sherefeia, Iehoshwa, Binnŵi, a Cadmiel. Yna eu cydweithwyr oedd yn sefyll gyferbyn â nhw i foli a diolch i Dduw (Roedd un côr yn wynebu y llall fel roedd Dafydd, dyn Duw, wedi dweud.)
25. Yna Mataneia, Bacbwceia, Obadeia, Meshwlam, Talmon ac Accwf yn ofalwyr yn gwarchod y drysau i'r stordai wrth y giatiau.
26. Roedd y rhain i gyd yn gweithio yn y cyfnod pan oedd Ioiacim (mab Ieshŵa fab Iotsadac) yn archoffeiriad, Nehemeia yn llywodraethwr, ac Esra'r offeiriad yn arbenigwr yn y Gyfraith.
27. Pan oedd wal Jerwsalem yn cael ei chysegru, dyma'r Lefiaid o bob man yn cael eu galw i Jerwsalem i gymryd rhan yn y dathlu. Roedden nhw yno yn canu caneuon o ddiolch i gyfeiliant symbalau, nablau a thelynau.
28. Roedd y cantorion wedi eu casglu hefyd, o'r ardal o gwmpas Jerwsalem a pentrefi Netoffa,
29. Beth-gilgal, a'r wlad o gwmpas Geba ac Asmafeth. (Roedd y cantorion wedi codi pentrefi iddyn nhw eu hunain o gwmpas Jerwsalem.)
30. Pan oedd yr offeiriaid a'r Lefiaid wedi mynd trwy'r ddefod o buro eu hunain, dyma nhw'n cysegru'r bobl, y giatiau, a'r wal.
31. Trefnais i arweinwyr Jwda sefyll ar dop y wal, a cael dau gôr i ganu mawl. Roedd un côr i arwain yr orymdaith ar y wal i gyfeiriad y de at Giât y Sbwriel.
32. Yn eu dilyn nhw roedd Hoshaia a hanner arweinwyr Jwda.
33. Wedyn Asareia, Esra a Meshwlam,
34. Jwda, Benjamin, Shemaia, a Jeremeia –
35. offeiriaid gydag utgyrn. Yna'n olaf Sechareia fab Jonathan (mab Shemaia, mab Mataneia, mab Michaia, mab Saccwr, mab Asaff)
36. a'i gyd-gerddorion – Shemaia, Asarel, Milalai, Gilalai, Maai, Nethanel, Jwda, a Chanani – gyda'r offerynnau cerdd oedd y brenin duwiol Dafydd wedi eu dewis. (Esra yr arbenigwr yn y Gyfraith oedd yn arwain y grŵp yma).
37. Dyma nhw'n mynd dros Giât y Ffynnon, yna yn syth ymlaen i fyny grisiau Dinas Dafydd, heibio ei balas ac at Giât y Dŵr sydd i'r dwyrain.