21. Roedd gweithwyr y deml yn byw yn Offel, a Sicha a Gishpa oedd yn gyfrifol amdanyn nhw.
22. Rheolwr y Lefiaid yn Jerwsalem oedd Wssi fab Bani (mab Chashafeia, mab Mataneia, mab Micha), oedd yn un o ddisgynyddion Asaff, sef y cantorion oedd yn arwain yr addoliad yn nheml Dduw.
23. Roedd brenin Persia wedi gorchymyn fod cyfran i'w roi iddyn nhw bob dydd.