Bydd hwn yn cael ei ddefnyddio i dalu am y torthau sydd i'w gosod ar fwrdd o flaen Duw, a'r gwahanol offrymau – yr offrwm dyddiol o rawn a'r offrwm i'w losgi, offrymau'r Sabothau, yr offrymau misol ar Ŵyl y lleuad newydd a'r gwyliau eraill, unrhyw offrymau eraill sydd wedi eu cysegru i Dduw, a'r offrymau puro o bechod sy'n gwneud pethau'n iawn rhwng pobl Israel a Duw. Hefyd unrhyw waith arall sydd i'w wneud i'r deml.