6. O, plîs edrych a gwrando ar weddi dy was. Gwranda ar beth dw i'n ei weddïo ddydd a nos ar ran dy weision, pobl Israel. Dw i'n cyffesu ein bod ni wedi pechu yn dy erbyn di – fi a'm teulu, a pobl Israel i gyd.
7. Dŷn ni wedi ymddwyn yn ofnadwy, ac heb gadw'r gorchmynion, y rheolau a'r canllawiau wnest ti eu rhoi i dy was Moses.
8. Plîs cofia beth ddwedaist ti wrth Moses: ‘Os byddwch chi'n anffyddlon, bydda i'n eich gyrru chi ar chwâl drwy'r gwledydd.
9. Ond os byddwch chi'n troi a gwneud beth dw i'n ddweud, hyd yn oed os ydy'r bobl wedi eu chwalu i ben draw'r byd, bydda i'n eu casglu nhw yn ôl i'r lle dw i wedi dewis byw ynddo.’
10. Dy weision di, dy bobl di ydyn nhw, ac rwyt wedi defnyddio dy rym i'w gollwng nhw'n rhydd.
11. Plîs, o ARGLWYDD, gwrando ar weddi dy was, ac ar weddïau pawb arall sy'n awyddus i dy barchu di. Helpa dy was i lwyddo heddiw, a gwna i'r dyn yma fod yn garedig ata i.”Fi oedd y wetar oedd yn dod â gwin i'r brenin.