Nahum 2:4-10 beibl.net 2015 (BNET)

4. Mae'r cerbydau'n rhuthro'n wyllt drwy'r strydoedd,ac yn rasio yn ôl ac ymlaen drwy'r sgwâr.Maen nhw'n fflachio fel ffaglau tân,ac yn gwibio fel mellt.

5. Mae'n galw ei swyddogion i ymosod;maen nhw'n baglu wrth wthio yn eu blaenau,yn rhuthro, hyrddio at y wal,a chodi sgrîn amddiffyn i gysgodi dani.

6. Mae'r llifddorau'n agora'r palas ar fin syrthio.

7. Stripio'r frenhines a'i chymryd i'r gaethglud,a'i morynion yn cŵan fel colomennod,yn galaru gan guro eu bronnau.

8. Mae Ninefe fel argae wedi torri –mae pawb yn dianc ohoni!“Stopiwch! Stopiwch!” –ond does neb yn troi yn ôl.

9. “Cymerwch yr arian! Cymerwch yr aur!”Mae trysorau Ninefe'n ddiddiwedd;mae pob math o bethau gwerthfawr ynddi!

10. Distryw, difrod, a dinistr!Calonnau'n toddi, gliniau'n crynu,lwynau gwan, wynebau gwelw!

Nahum 2