2. Chi fynyddoedd a sylfeini'r ddaeargwrandwch ar gyhuddiad yr ARGLWYDD.”(Mae'n dwyn achos yn erbyn ei bobl.Mae ganddo ddadl i'w setlo gydag Israel.)
3. “Fy mhobl, beth wnes i o'i le?Beth wnes i i'ch diflasu chi? Atebwch!
4. Fi wnaeth eich achub chi o wlad yr Aifft,a'ch rhyddhau o fod yn gaethweision.Anfonais Moses i'ch arwain,ac Aaron a Miriam gydag e.
5. Fy mhobl, cofiwch beth roedd Balac, brenin Moab, am ei wneud,a sut wnaeth Balaam fab Beor ei ateb.Cofiwch beth ddigwyddodd rhwng Sittim a Gilgal –i chi weld fod yr ARGLWYDD wedi eich trin yn deg.”
6. Sut alla i dalu i'r ARGLWYDD?Beth sydd gen i i'w gynnig wrth blygui addoli y Duw mawr?Ydy aberthau i'w llosgi yn ddigon?Y lloi gorau i'w llosgi'n llwyr?Fyddai mil o hyrddod yn ei blesio,neu afonydd diddiwedd o olew olewydd?
7. Ddylwn i aberthu fy mab hynafyn dâl am wrthryfela? –rhoi bywyd fy mhlentyn am fy mhechod?
8. Na, mae'r ARGLWYDD wedi dweud beth sy'n dda,a beth mae e eisiau gen ti:Hybu cyfiawnder, bod yn hael bob amser,a byw'n wylaidd ac ufudd i dy Dduw.
9. “Gwrandwch!” Mae'r ARGLWYDD yn galw pobl Jerwsalem –(Mae'n beth doeth i barchu dy enw, o Dduw.)“Gwrandwch lwyth Jwda a'r rhai sy'n casglu yn y ddinas!
10. Ydw i'n mynd i anwybyddu'r trysorau a gawsoch trwy dwyll,a'r mesur prin, sy'n felltith?
11. Fyddai'n iawn i mi oddef y clorian sy'n dweud celwydd,a'r bag o bwysau ysgafn?
12. Mae'r cyfoethog yn treisio'r tlawd,a'r bobl i gyd yn dweud celwydd –twyll ydy eu hiaith gyntaf nhw!