Micha 5:3-6 beibl.net 2015 (BNET)

3. Felly bydd yr ARGLWYDDyn rhoi pobl Israel i'r gelyn,hyd nes bydd yr un sy'n cael y babiwedi geni'r plentyn.Wedyn bydd gweddill ei deulu yn dod adreat blant Israel.

4. Bydd yn codi i arwain ei boblfel bugail yn gofalu am ei braidd.Bydd yn gwneud hyn yn nerth yr ARGLWYDDa gydag awdurdod yr ARGLWYDD ei Dduw.Byddan nhw yno i aros,achos bydd e'n cael ei anrhydeddugan bawb i ben draw'r byd.

5. Bydd e'n dod รข heddwch i ni.Os bydd Asyria'n ymosod ar ein tirac yn ceisio mynd i mewn i'n plastai,bydd digon o arweinwyr i'w rhwystro!

6. Byddan nhw'n rheoli Asyria gyda'r cleddyf;gwlad Nimrod gyda llafnau parod!Bydd ein brenin yn ein hachubpan fydd Asyria'n ymosod ar ein gwlad,ac yn ceisio croesi ein ffiniau.

Micha 5