6. “Stopia falu awyr!” medden nhw'n lloerig.“Ddylai neb siarad fel yna!Fyddwn ni ddim yn cael ein cywilyddio.”
7. Ai fel hyn mae pobl Jacob yn meddwl? –“Dydy'r ARGLWYDD ddim yn colli ei dymer.Fyddai e byth yn gwneud y fath beth!”“Mae'r pethau da dw i'n eu haddo yn digwyddi'r rhai sy'n byw yn iawn.
8. Ond yn ddiweddar mae fy mhoblwedi codi yn fy erbyn fel gelyn.Dych chi'n dwyn y fantell a'r crysoddi ar bobl ddiniwed sy'n pasio heibiofel milwyr yn dod adre o ryfel.
9. Dych chi'n gyrru gweddwon o'u cartrefi clyd,a dwyn eu heiddo oddi ar eu plant am byth.
10. Felly symudwch! I ffwrdd â chi!Does dim lle i chi orffwys yma!Dych chi wedi llygru'r lle,ac wedi ei ddifetha'n llwyr!
11. Petai rhywun yn dod heibioyn malu awyr a thwyllo,‘Dw i'n addo y cewch chi joiodigonedd o win a chwrw!’ –byddech wrth eich bodd yn gwrando ar hwnnw!