Micha 1:14-16 beibl.net 2015 (BNET)

14. Bydd rhaid i chi ddweud ffarwélwrth Moresheth-gath,a bydd tai Achsib yn siomi –bydd fel ffynnon wedi sychu i frenhinoedd Israel.

15. Bobl Maresha, bydd gelyn yn dod i goncro a dal eich tref,a bydd arweinwyr Israel yn ffoi i ogof Adwlam eto.

16. Felly, Jerwsalem, siafia dy ben i alaruam y plant rwyt ti'n dotio atyn nhw.Gwna dy dalcen yn foel fel y fwltur,am fod y gelyn yn mynd i'w cymryd nhw'n gaeth.

Micha 1