1. Dyma'r neges roddodd yr ARGLWYDD i Micha o Moresheth. Roedd yn proffwydo pan oedd Jotham, Ahas, a Heseceia yn frenhinoedd ar Jwda. Dyma ddangosodd Duw iddo am Samaria a Jerwsalem.
2. Gwrandwch, chi bobl i gyd!Cymrwch sylw, bawb sy'n byw drwy'r byd!Mae'r ARGLWYDD, y Meistr, yn dyst yn eich erbyn;mae'n eich cyhuddo chi o'i deml sanctaidd.
3. Edrychwch! Mae'r ARGLWYDD yn dod!Mae'n dod i lawr ac yn sathru'r mynyddoedd!
4. Bydd y mynyddoedd yn dryllio dan ei draed,a'r dyffrynnoedd yn hollti.Bydd y creigiau'n toddi fel cwyr mewn tân,ac yn llifo fel dŵr ar y llethrau.
5. Pam? Am fod Jacob wedi gwrthryfela,a pobl Israel wedi pechu.Sut mae Jacob wedi gwrthryfela?Samaria ydy'r drwg!Ble mae allorau paganaidd Jwda?Yn Jerwsalem!
6. “Dw i'n mynd i droi Samariayn bentwr o gerrig mewn cae agored –bydd yn lle i blannu gwinllannoedd!Dw i'n mynd i hyrddio ei waliau i'r dyffryna gadael dim ond sylfeini'n y golwg.
7. Bydd ei delwau'n cael eu dryllio,ei thâl am buteinio yn llosgi'n y tân,a'r eilunod metel yn bentwr o sgrap!Casglodd nhw gyda'i thâl am buteinio,a byddan nhw'n troi'n dâl i buteiniaid eto.”
8. Dyna pam dw i'n galaru a nadu,a cherdded heb sandalau ac mewn carpiau;yn udo'n uchel fel siacaliaid,a sgrechian cwyno fel cywion estrys.
9. Fydd salwch Samaria ddim yn gwella!Mae wedi lledu i Jwda –mae hyd yn oed arweinwyr fy mhoblyn Jerwsalem wedi dal y clefyd!