1. Dyma Iesu'n mynd i mewn i gwch a chroesi'r llyn yn ôl i'w dref ei hun.
2. A dyma rhyw bobl yn dod â dyn wedi ei barlysu ato, yn gorwedd ar fatras. Pan welodd Iesu eu ffydd nhw, dwedodd wrth y dyn oedd wedi ei barlysu, “Cod dy galon, ffrind; mae dy bechodau wedi eu maddau.”
3. Dyma rhai o'r arbenigwyr yn y Gyfraith yn dweud wrth ei gilydd, “Mae'r dyn yma'n cablu!”