Mathew 5:33-42 beibl.net 2015 (BNET)

33. “Dych chi hefyd wedi clywed i hyn gael ei ddweud wrth bobl ers talwm: ‘Paid gwneud llw, ac wedyn ei dorri. Rhaid cadw pob llw wyt ti wedi ei wneud i'r Arglwydd.’

34. Ond dw i'n dweud wrthoch chi, Peidiwch tyngu llw o gwbl: ddim i'r nefoedd, am mai dyna orsedd Duw;

35. nac i'r ddaear, y stôl iddo orffwys ei draed arni; nac i Jerwsalem, am mai hi ydy dinas Duw, y Brenin Mawr.

36. Peidiwch tyngu llw hyd yn oed i'ch pen eich hun, oherwydd allwch chi ddim troi un blewyn yn ddu neu'n wyn.

37. Yn lle hynny, dwedwch y gwir bob amser – dylai dweud ‘Ie’ olygu ‘Ie’, a dweud ‘Na’ olygu ‘Na’. Y diafol sy'n gwneud i chi fod eisiau dweud mwy na hynny.

38. “Dych chi wedi clywed fod hyn yn cael ei ddweud, ‘Llygad am lygad, a dant am ddant.’

39. Ond dw i'n dweud wrthoch chi: Peidiwch ceisio talu'n ôl. Os ydy rhywun yn rhoi clatsien i ti ar dy foch dde, cynnig y foch arall iddo.

40. Ac os ydy rhywun am dy siwio a chymryd dy grys, rho dy gôt iddo hefyd.

41. Os ydy milwr Rhufeinig yn dy orfodi i gario ei bac am un filltir, dos di ddwy.

42. Rho i bwy bynnag sy'n gofyn i ti am rywbeth, a paid gwrthod y sawl sydd eisiau benthyg rhywbeth gen ti.

Mathew 5