Mathew 3:13-17 beibl.net 2015 (BNET)

13. Bryd hynny daeth Iesu o Galilea at Afon Iorddonen i gael ei fedyddio gan Ioan.

14. Ond ceisiodd Ioan ei rwystro. Meddai wrtho, “Fi ddylai gael fy medyddio gen ti! Pam wyt ti'n dod ata i?”

15. Atebodd Iesu, “Gwna beth dw i'n ei ofyn; dyma sy'n iawn i'w wneud.” Felly cytunodd Ioan i'w fedyddio.

16. Ar ôl cael ei fedyddio, yr eiliad y daeth allan o'r dŵr, dyma'r awyr yn rhwygo'n agored, a gwelodd Ysbryd Duw yn dod i lawr fel colomen ac yn glanio arno.

17. A dyma lais o'r nefoedd yn dweud: “Hwn ydy fy Mab annwyl i; mae wedi fy mhlesio i'n llwyr.”

Mathew 3