1. Yr adeg yna dechreuodd Ioan Fedyddiwr bregethu yn anialwch Jwdea.
2. Dyma'r neges oedd ganddo, “Trowch gefn ar bechod, achos mae'r Un nefol yn dod i deyrnasu.”
3. Dyma pwy oedd y proffwyd Eseia wedi sôn amdano: “Llais yn gweiddi'n uchel yn yr anialwch, ‘Paratowch y ffordd i'r Arglwydd ddod! Gwnewch y llwybrau'n syth iddo!’”