36. “Does neb ond y Tad yn gwybod y dyddiad a pha amser o'r dydd y bydd hyn yn digwydd – dydy'r angylion ddim yn gwybod, na hyd yn oed y Mab ei hun!
37. Bydd hi yr un fath ag oedd hi yn amser Noa pan fydda i, Mab y Dyn, yn dod yn ôl.
38. Yn y dyddiau yn union cyn y llifogydd, roedd pobl yn bwyta ac yn yfed ac yn priodi ac yn y blaen, hyd y diwrnod pan aeth Noa i mewn i'r arch.
39. Doedd ganddyn nhw ddim syniad beth oedd yn mynd i ddigwydd nes i'r llifogydd ddod a'u hysgubo nhw i gyd i ffwrdd! Fel yna'n union y bydd hi pan fydda i, Mab y Dyn, yn dod yn ôl.
40. Bydd dau allan yn y maes; bydd un yn cael ei gymryd i fwrdd ac un yn cael ei adael.
41. Bydd dwy wraig yn malu ŷd gyda melin law; bydd un yn cael ei chymryd i ffwrdd ac un yn cael ei gadael.
42. “Gwyliwch felly, achos dych chi ddim yn gwybod y dyddiad pan bydd eich Arglwydd yn dod yn ôl.
43. Meddyliwch! Petai perchennog y tŷ yn gwybod ymlaen llaw pryd yn ystod y nos roedd y lleidr yn dod, byddai wedi aros i wylio a'i rwystro rhag torri i mewn i'w dŷ.
44. Felly rhaid i chi fod yn barod drwy'r adeg. Bydda i, Mab y Dyn, yn cyrraedd pan fyddwch chi ddim yn disgwyl!
45. “Felly pwy ydy'r swyddog doeth mae'r meistr yn gallu dibynnu arno? Mae wedi ei benodi i fod yn gyfrifol am y gweision i gyd, ac i'w bwydo'n rheolaidd.
46. Ac os bydd yn gwneud ei waith yn iawn pan ddaw'r meistr yn ôl, bydd yn cael ei wobrwyo.
47. Wir i chi, bydd yn cael y cyfrifoldeb o ofalu am eiddo'r meistr i gyd!
48. Ond beth petai'r swyddog yna'n un drwg, ac yn meddwl iddo'i hun, ‘Mae'r meistr wedi bod i ffwrdd yn hir iawn,’
49. ac yn mynd ati i gam-drin ei gydweithwyr, a bwyta ac yfed gyda'r meddwon.
50. Byddai'r meistr yn dod yn ôl yn gwbl ddirybudd,
51. a'i gosbi'n llym a'i daflu allan gyda'r rhai hynny sy'n gwneud sioe o'u crefydd. Yno bydd pobl yn wylo'n chwerw ac mewn artaith.”