3. Yn nes ymlaen, pan oedd Iesu'n eistedd ar ochr Mynydd yr Olewydd, daeth ei ddisgyblion ato yn breifat a gofyn, “Pryd mae beth roeddet ti'n sôn amdano yn mynd i ddigwydd? Fydd unrhyw rybudd i ddangos i ni dy fod di'n dod, a bod diwedd y byd wedi cyrraedd?”
4. Atebodd Iesu: “Gwyliwch fod neb yn eich twyllo chi.
5. Bydd llawer yn dod yn hawlio fy awdurdod i, ac yn dweud, ‘Fi ydy'r Meseia,’ a byddan nhw'n llwyddo i dwyllo llawer o bobl.
6. Bydd rhyfeloedd a byddwch yn clywed sôn am ryfeloedd. Ond peidiwch cynhyrfu – mae pethau felly'n siŵr o ddigwydd, ond fydd y diwedd yn dal heb ddod.
7. Bydd gwledydd a llywodraethau yn rhyfela yn erbyn ei gilydd. Bydd newyn mewn gwahanol leoedd, a daeargrynfeydd.
8. Dim ond y dechrau ydy hyn i gyd!
9. “Cewch eich arestio a'ch cam-drin a'ch lladd. Bydd pobl ym mhob gwlad yn eich casáu chi am eich bod yn ddilynwyr i mi.
10. Bydd llawer yn troi cefn arna i bryd hynny, ac yn bradychu a casáu ei gilydd.
11. Bydd proffwydi ffug yn codi ac yn twyllo llawer iawn o bobl.
12. Bydd mwy a mwy o ddrygioni, bydd cariad y rhan fwyaf yn oeri,
13. ond bydd yr un sy'n sefyll yn gadarn i'r diwedd un yn cael ei achub.
14. A bydd y newyddion da am deyrnasiad Duw yn cael ei gyhoeddi drwy'r byd i gyd. Bydd pob gwlad yn ei glywed, a dim ond wedyn fydd y diwedd yn dod.
15. “Pan fydd beth soniodd y proffwyd Daniel amdano yn digwydd, hynny ydy ‘Yr eilun ffiaidd sy'n dinistrio’ yn sefyll yn y cysegr sanctaidd
16. (rhaid i'r un sy'n darllen ddeall hyn!), dylai pawb sydd yn Jwdea ddianc i'r mynyddoedd.
17. Fydd dim cyfle i neb sydd y tu allan i'w dŷ fynd i mewn i nôl unrhyw beth.
18. A ddylai neb sydd allan yn y maes fynd adre i nôl ei gôt hyd yn oed.