Mathew 24:18-35 beibl.net 2015 (BNET)

18. A ddylai neb sydd allan yn y maes fynd adre i nôl ei gôt hyd yn oed.

19. Mor ofnadwy fydd hi ar wragedd beichiog a mamau sy'n magu plant bach bryd hynny!

20. Gweddïwch y bydd dim rhaid i chi ffoi yn ystod y gaeaf neu ar ddydd Saboth.

21. Achos bryd hynny bydd argyfwng gwaeth nag unrhyw beth welwyd erioed o'r blaen – a fydd dim byd tebyg yn y dyfodol chwaith!

22. Oni bai iddo gael ei wneud yn gyfnod byr, fyddai neb yn dianc! Ond bydd yn cael ei wneud yn gyfnod byr er mwyn y bobl mae Duw wedi eu dewis.

23. Felly, os bydd rhywun yn dweud, ‘Edrych! Hwn ydy'r Meseia!’ neu ‘Dacw fe!’ peidiwch credu'r peth.

24. Bydd llawer i ‛Feseia‛ ffug a phroffwydi ffug yn dod ac yn gwneud gwyrthiau syfrdanol. Bydden nhw'n twyllo'r bobl hynny mae Duw wedi eu dewis petai'r fath beth yn bosib!

25. Cofiwch mod i wedi dweud hyn ymlaen llaw.

26. “Felly os bydd rhywun yn dweud wrthoch chi, ‘Mae'r Meseia acw, allan yn yr anialwch,’ peidiwch mynd yno i edrych; neu ‘mae e'n cuddio yma,’ peidiwch credu'r peth.

27. Fydd dim amheuaeth o gwbl pan ddaw Mab y Dyn yn ôl – bydd mor amlwg â mellten yn goleuo'r awyr o'r dwyrain i'r gorllewin.

28. Bydd mor amlwg â'r ffaith fod yna gorff marw ble bynnag mae fwlturiaid wedi casglu.

29. “Ond yn union ar ôl yr argyfwng hwnnw, ‘Bydd yr haul yn tywyllu, a'r lleuad yn peidio rhoi golau; bydd y sêr yn syrthio o'r awyr, a'r planedau yn ansefydlog.’

30. “Yna bydd arwydd i'w weld yn yr awyr yn rhybuddio fod Mab y Dyn ar fin dod, a bydd pob llwyth o bobl ar y ddaear yn galaru. Bydd pawb yn fy ngweld i, Mab y Dyn, yn dod ar gymylau'r awyr gyda grym ac ysblander mawr.

31. Bydd utgorn yn canu ffanffer uchel a bydd Duw yn anfon ei angylion i gasglu'r rhai mae wedi eu dewis o bob rhan o'r byd.

32. “Dysgwch wers gan y goeden ffigys: Pan mae'r brigau'n dechrau blaguro a dail yn dechrau tyfu arni, gwyddoch fod yr haf yn agos.

33. Felly'r un fath, pan fyddwch yn gweld y pethau yma i gyd, byddwch yn gwybod ei fod ar fin dod yn ôl – reit y tu allan i'r drws!

34. Credwch chi fi, bydd y genhedlaeth bresennol yn dal yma pan fydd hyn yn digwydd.

35. Bydd yr awyr a'r ddaear yn diflannu, ond mae beth dw i'n ddweud yn aros am byth.

Mathew 24