Mathew 24:17-28 beibl.net 2015 (BNET)

17. Fydd dim cyfle i neb sydd y tu allan i'w dŷ fynd i mewn i nôl unrhyw beth.

18. A ddylai neb sydd allan yn y maes fynd adre i nôl ei gôt hyd yn oed.

19. Mor ofnadwy fydd hi ar wragedd beichiog a mamau sy'n magu plant bach bryd hynny!

20. Gweddïwch y bydd dim rhaid i chi ffoi yn ystod y gaeaf neu ar ddydd Saboth.

21. Achos bryd hynny bydd argyfwng gwaeth nag unrhyw beth welwyd erioed o'r blaen – a fydd dim byd tebyg yn y dyfodol chwaith!

22. Oni bai iddo gael ei wneud yn gyfnod byr, fyddai neb yn dianc! Ond bydd yn cael ei wneud yn gyfnod byr er mwyn y bobl mae Duw wedi eu dewis.

23. Felly, os bydd rhywun yn dweud, ‘Edrych! Hwn ydy'r Meseia!’ neu ‘Dacw fe!’ peidiwch credu'r peth.

24. Bydd llawer i ‛Feseia‛ ffug a phroffwydi ffug yn dod ac yn gwneud gwyrthiau syfrdanol. Bydden nhw'n twyllo'r bobl hynny mae Duw wedi eu dewis petai'r fath beth yn bosib!

25. Cofiwch mod i wedi dweud hyn ymlaen llaw.

26. “Felly os bydd rhywun yn dweud wrthoch chi, ‘Mae'r Meseia acw, allan yn yr anialwch,’ peidiwch mynd yno i edrych; neu ‘mae e'n cuddio yma,’ peidiwch credu'r peth.

27. Fydd dim amheuaeth o gwbl pan ddaw Mab y Dyn yn ôl – bydd mor amlwg â mellten yn goleuo'r awyr o'r dwyrain i'r gorllewin.

28. Bydd mor amlwg â'r ffaith fod yna gorff marw ble bynnag mae fwlturiaid wedi casglu.

Mathew 24