Mathew 24:1-12 beibl.net 2015 (BNET)

1. Wrth i Iesu adael y deml dyma'i ddisgyblion yn dod ato ac yn tynnu ei sylw at yr adeiladau.

2. “Ydych chi'n gweld y rhain i gyd?” meddai. “Credwch chi fi, bydd y cwbl yn cael ei chwalu, a fydd dim un garreg wedi ei gadael yn ei lle.”

3. Yn nes ymlaen, pan oedd Iesu'n eistedd ar ochr Mynydd yr Olewydd, daeth ei ddisgyblion ato yn breifat a gofyn, “Pryd mae beth roeddet ti'n sôn amdano yn mynd i ddigwydd? Fydd unrhyw rybudd i ddangos i ni dy fod di'n dod, a bod diwedd y byd wedi cyrraedd?”

4. Atebodd Iesu: “Gwyliwch fod neb yn eich twyllo chi.

5. Bydd llawer yn dod yn hawlio fy awdurdod i, ac yn dweud, ‘Fi ydy'r Meseia,’ a byddan nhw'n llwyddo i dwyllo llawer o bobl.

6. Bydd rhyfeloedd a byddwch yn clywed sôn am ryfeloedd. Ond peidiwch cynhyrfu – mae pethau felly'n siŵr o ddigwydd, ond fydd y diwedd yn dal heb ddod.

7. Bydd gwledydd a llywodraethau yn rhyfela yn erbyn ei gilydd. Bydd newyn mewn gwahanol leoedd, a daeargrynfeydd.

8. Dim ond y dechrau ydy hyn i gyd!

9. “Cewch eich arestio a'ch cam-drin a'ch lladd. Bydd pobl ym mhob gwlad yn eich casáu chi am eich bod yn ddilynwyr i mi.

10. Bydd llawer yn troi cefn arna i bryd hynny, ac yn bradychu a casáu ei gilydd.

11. Bydd proffwydi ffug yn codi ac yn twyllo llawer iawn o bobl.

12. Bydd mwy a mwy o ddrygioni, bydd cariad y rhan fwyaf yn oeri,

Mathew 24