Mathew 23:20-22 beibl.net 2015 (BNET)

20. Os ydy rhywun yn enwi'r allor wrth dyngu llw, mae hynny'n cynnwys popeth sydd arni hefyd!

21. Ac os ydy rhywun yn enwi'r deml wrth dyngu llw, mae hefyd yn cyfeirio at Dduw, sy'n bresennol yn y deml.

22. Ac os ydy rhywun yn enwi'r nefoedd wrth dyngu llw, mae'n cyfeirio at orsedd Duw, ac at Dduw ei hun, sy'n eistedd arni.

Mathew 23