Mathew 22:21-36 beibl.net 2015 (BNET)

21. “Cesar,” medden nhw. Felly meddai Iesu, “Rhowch beth sydd biau Cesar i Cesar, a'r hyn biau Duw i Dduw.”

22. Roedden nhw wedi eu syfrdanu pan glywon nhw ei ateb. Felly dyma nhw'n ei adael a mynd i ffwrdd.

23. Yr un diwrnod dyma rhai o'r Sadwceaid yn dod i ofyn cwestiwn iddo. Roedden nhw'n dadlau fod pobl ddim yn mynd i ddod yn ôl yn fyw ar ôl marw.

24. “Athro,” medden nhw, “Dwedodd Moses, ‘os ydy dyn yn marw heb gael plant, rhaid i'w frawd briodi'r weddw a chael plant yn ei le.’”

25. “Nawr, roedd saith brawd yn ein plith ni. Priododd y cyntaf, ond buodd farw cyn cael plant.

26. A digwyddodd yr un peth i'r ail a'r trydydd, reit i lawr i'r seithfed.

27. Y wraig ei hun oedd yr olaf i farw.

28. Dyma'n cwestiwn ni: Pan fydd yr atgyfodiad yn digwydd, gwraig pa un o'r saith fydd hi? Roedd hi wedi bod yn wraig iddyn nhw i gyd!”

29. Atebodd Iesu, “Dych chi'n deall dim! Dych chi ddim wedi deall yr ysgrifau sanctaidd a dych chi'n gwybod dim byd am allu Duw.

30. Fydd pobl ddim yn priodi pan ddaw'r atgyfodiad; byddan nhw yr un fath â'r angylion yn y nefoedd.

31. A bydd atgyfodiad! – Ydych chi ddim wedi darllen beth ddwedodd Duw? –

32. ‘Fi ydy Duw Abraham, Duw Isaac, a Duw Jacob.’ Dim Duw pobl wedi marw ydy Duw, ond Duw'r rhai sy'n fyw!”

33. Roedd y dyrfa yn rhyfeddu wrth glywed yr hyn oedd Iesu'n ei ddysgu.

34. Ar ôl clywed fod Iesu wedi rhoi taw ar y Sadwceaid, daeth y Phariseaid at ei gilydd.

35. Dyma un ohonyn nhw, oedd yn arbenigwr yn y Gyfraith, yn gofyn cwestiwn i geisio ei faglu:

36. “Athro, Pa un o'r gorchmynion yn y Gyfraith ydy'r pwysica?”

Mathew 22