Mathew 20:32-34 beibl.net 2015 (BNET)

32. Dyma Iesu'n stopio, a'u galw nhw draw a gofyn, “Beth ga i wneud i chi?”

33. Dyma nhw'n ateb, “Arglwydd, dŷn ni eisiau gweld.”

34. Roedd Iesu'n llawn tosturi, a dyma fe'n cyffwrdd eu llygaid nhw. Yn sydyn roedden nhw'n gallu gweld! A dyma nhw'n ei ddilyn e.

Mathew 20