1. Y diwrnod hwnnw aeth Iesu allan ac eistedd ar lan Llyn Galilea.
2. Roedd cymaint o dyrfa wedi casglu o'i gwmpas nes bod rhaid iddo fynd i eistedd mewn cwch tra oedd y bobl i gyd yn sefyll ar y lan.
3. Roedd yn defnyddio llawer o straeon i rannu ei neges gyda nhw: “Aeth ffermwr allan i hau had.
4. Wrth iddo wasgaru'r had, dyma beth ohono yn syrthio ar y llwybr, a dyma'r adar yn dod a'i fwyta.
5. Dyma beth o'r had yn syrthio ar dir creigiog lle doedd ond haen denau o bridd. Tyfodd yn ddigon sydyn,
6. ond yn yr haul poeth dyma'r tyfiant yn gwywo. Doedd ganddo ddim gwreiddiau.
7. Yna dyma beth o'r had yn syrthio i ganol drain, ond tyfodd y drain a thagu'r planhigion.
8. Ond syrthiodd peth o'r had ar bridd da. Tyfodd cnwd da yno – beth ohono gan gwaith, chwe deg gwaith neu dri deg gwaith mwy na chafodd ei hau.”
9. “Gwrandwch yn ofalus os dych chi'n awyddus i ddysgu!”
10. Daeth y disgyblion ato a gofyn, “Pam wyt ti'n dweud y straeon yma wrthyn nhw?”
11. Dyma oedd ei ateb: “Dych chi'n cael gwybod beth ydy'r gyfrinach am deyrnasiad yr Un nefol, ond dydyn nhw ddim.