Mathew 12:1-2 beibl.net 2015 (BNET)

1. Bryd hynny aeth Iesu drwy ganol caeau ŷd ar y dydd Saboth. Roedd ei ddisgyblion eisiau bwyd, a dyma nhw'n dechrau tynnu rhai o'r tywysennau ŷd a'u bwyta.

2. Wrth weld hyn dyma'r Phariseaid yn dweud wrtho, “Edrych! Mae dy ddisgyblion di yn torri rheolau'r Gyfraith ar y Saboth!”

Mathew 12