6. (Doedd ganddo ddim syniad beth roedd yn ei ddweud go iawn – roedd y tri ohonyn nhw wedi dychryn cymaint!)
7. Wedyn dyma gwmwl yn dod i lawr a chau o'u cwmpas, a dyma lais o'r cwmwl yn dweud: “Fy Mab annwyl i ydy hwn. Gwrandwch arno!”
8. Yn sydyn dyma nhw'n edrych o'u cwmpas, a doedd neb i'w weld yno ond Iesu.
9. Pan oedden nhw'n dod i lawr o'r mynydd dyma Iesu'n dweud wrthyn nhw i beidio sôn wrth neb am beth welon nhw nes y byddai e, Mab y Dyn, wedi codi yn ôl yn fyw.
10. (Felly cafodd y digwyddiad ei gadw'n gyfrinach, ond roedden nhw'n aml yn trafod gyda'i gilydd beth oedd ystyr “codi yn ôl yn fyw.”)
11. Dyma nhw'n gofyn iddo, “Pam mae'r arbenigwyr yn y Gyfraith yn dweud fod rhaid i Elias ddod yn ôl cyn i'r Meseia gyrraedd?”
12. Atebodd Iesu, “Mae Elias yn dod gyntaf reit siŵr, i roi trefn ar bopeth. Ond pam mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud fod Mab y Dyn yn mynd i ddioddef llawer a chael ei wrthod?
13. Dw i'n dweud wrthoch chi fod Elias wedi dod, ac maen nhw wedi ei gam-drin yn union fel y mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud.”
14. Pan ddaethon nhw at y disgyblion eraill roedd tyrfa fawr o'u cwmpas, a'r arbenigwyr yn y Gyfraith yno'n dadlau gyda nhw.
15. Cafodd y bobl sioc o weld Iesu, a dyma nhw'n rhedeg i'w gyfarch.
16. “Am beth dych chi'n ffraeo gyda nhw?” gofynnodd.
17. Dyma rhyw ddyn yn ei ateb, “Athro, des i â'm mab atat ti; mae'n methu siarad am ei fod wedi ei feddiannu gan ysbryd drwg sy'n ei wneud yn fud.
18. Pan mae'r ysbryd drwg yn gafael ynddo mae'n ei daflu ar lawr, ac yna mae'n glafoerio a rhincian ei ddannedd ac yn mynd yn stiff i gyd. Gofynnais i dy ddisgyblion di fwrw'r ysbryd allan, ond doedden nhw ddim yn gallu.”
19. “Pam dych chi mor amharod i gredu?” meddai Iesu, “Am faint dw i'n mynd i aros gyda chi? Am faint alla i'ch dioddef chi? Dewch â'r bachgen yma.”