Marc 9:37-42 beibl.net 2015 (BNET)

37. “Mae pwy bynnag sy'n rhoi croeso i blentyn bach fel yma am eu bod yn perthyn i mi, yn rhoi croeso i mi; ac mae pwy bynnag sy'n rhoi croeso i mi, yn croesawu'r Un sydd wedi fy anfon i.”

38. Dyma Ioan yn dweud wrtho, “Athro, gwelon ni rhywun yn bwrw allan gythreuliaid yn dy enw di, a dyma ni'n dweud wrtho am stopio, am ei fod e ddim yn un o'n criw ni.”

39. “Peidiwch gwneud hynny,” meddai Iesu. “Does neb yn gwneud gwyrth yn fy enw i yn mynd i ddweud pethau drwg amdana i y funud nesa.

40. Os ydy rhywun ddim yn ein herbyn ni, mae o'n plaid ni.

41. Credwch chi fi, mae unrhyw un sy'n rhoi diod o ddŵr i chi am eich bod yn bobl y Meseia yn siŵr o gael ei wobr.

42. “Pwy bynnag sy'n gwneud i un o'r rhai bach yma sy'n credu ynof fi bechu, byddai'n well iddo gael ei daflu i'r môr gyda maen melin wedi ei rwymo am ei wddf.

Marc 9