Marc 8:35-38 beibl.net 2015 (BNET)

35. Bydd y rhai sy'n ceisio cadw eu bywyd eu hunain yn colli'r bywyd go iawn, ond y rhai sy'n barod i ollwng gafael ar eu bywyd er fy mwyn i a'r newyddion da, yn diogelu bywyd go iawn.

36. Beth ydy'r pwynt o gael popeth sydd gan y byd i'w gynnig, a cholli'r enaid?

37. Oes gynnoch chi unrhyw beth sy'n fwy gwerthfawr na'r enaid?

38. Pawb sydd â chywilydd ohono i a beth dw i'n ei ddweud yn yr oes ddi-gred a phechadurus yma, bydd gen i, Fab y Dyn, gywilydd ohonyn nhw pan fydda i'n dod yn ôl yn holl ysblander y Tad, a'r angylion sanctaidd gyda mi.”

Marc 8