1. Roedd tyrfa fawr arall wedi casglu o'i gwmpas tua'r un adeg. Am bod dim bwyd gan y bobl, dyma Iesu'n galw ei ddisgyblion ato a dweud,
2. “Dw i'n teimlo dros y bobl yma i gyd; maen nhw wedi bod yma ers tri diwrnod heb gael dim i'w fwyta.
3. Os na chân nhw rywbeth i'w fwyta byddan nhw'n llewygu ar y ffordd adre. Mae rhai ohonyn nhw wedi dod o bell.”
4. Atebodd y disgyblion, “Pa obaith sydd i unrhyw un ddod o hyd i ddigon o fwyd iddyn nhw yn y lle anial yma?!”
5. Gofynnodd Iesu, “Sawl torth o fara sydd gynnoch chi?” “Saith,” medden nhw.
6. Yna dwedodd Iesu wrth y dyrfa am eistedd i lawr. Cymerodd y saith torth ac offrymu gweddi o ddiolch i Dduw, yna eu torri a'u rhoi i'w ddisgyblion i'w rhannu i'r bobl. A dyna wnaeth y disgyblion.
7. Roedd ychydig o bysgod bach ganddyn nhw hefyd; a gwnaeth Iesu yr un peth gyda'r rheiny.
8. Cafodd pawb ddigon i'w fwyta, ac roedd saith llond cawell o dameidiau bwyd dros ben.
9. Roedd tua pedair mil o bobl yno! Ar ôl eu hanfon i ffwrdd,
10. aeth i mewn i'r cwch gyda'i ddisgyblion a chroesi i ardal Dalmanwtha.
11. Daeth Phariseaid ato, a dechrau ffraeo. “Profa pwy wyt ti drwy wneud rhyw arwydd gwyrthiol,” medden nhw.
12. Ochneidiodd Iesu'n ddwfn, a dweud: “Pam mae'r bobl yma o hyd yn gofyn am wyrth fyddai'n arwydd iddyn nhw o pwy ydw i? Wir i chi, chân nhw ddim un gen i!”
13. Yna gadawodd nhw, a mynd yn ôl i mewn i'r cwch a chroesi drosodd i ochr arall Llyn Galilea.
14. Roedd y disgyblion wedi anghofio mynd â bwyd gyda nhw. Dim ond un dorth fach oedd ganddyn nhw yn y cwch.
15. Dyma Iesu'n eu rhybuddio nhw: “Byddwch yn ofalus, a cadwch draw oddi wrth furum y Phariseaid a burum Herod hefyd,”
16. Wrth drafod y peth dyma'r disgyblion yn dod i'r casgliad mai tynnu sylw at y ffaith fod ganddyn nhw ddim bara oedd e.