18. “Ydych chi wir mor ddwl?” meddai. “Ydych chi ddim yn gweld mai dim beth dych chi'n ei fwyta sy'n eich gwneud chi'n ‛aflan‛?
19. Dydy bwyd ddim yn mynd yn agos at y galon, dim ond pasio drwy'r stumog ac yna dod allan yn y tŷ bach.” (Wrth ddweud hyn roedd Iesu'n dweud fod pob bwyd yn iawn i'w fwyta.)
20. “Yr hyn sy'n dod allan o'r galon sy'n eich gwneud chi'n ‛aflan‛,” meddai.
21. “O'r tu mewn i chi mae meddyliau drwg yn dod, a phethau fel anfoesoldeb rhywiol, dwyn, llofruddio,
22. godinebu, bod yn farus, bod yn faleisus, twyllo, penrhyddid, bod yn hunanol, hel straeon cas, bod yn haerllug ac ymddwyn yn ffôl.
23. Y pethau drwg yma sy'n dod allan ohonoch chi sy'n eich gwneud chi'n ‛aflan‛.”
24. Gadawodd Iesu Galilea ac aeth i fyny i ardal Tyrus. Ceisiodd gadw'r ffaith ei fod yn aros yno'n gyfrinach, ond methodd.
25. Yn wir, yn syth ar ôl clywed ei fod yno, daeth rhyw wraig ato a syrthio i lawr o'i flaen – roedd ganddi ferch fach oedd wedi ei meddiannu gan ysbryd drwg.
26. Gwraig wedi ei geni yn Syro-Phoenicia oedd hi, dim Iddewes, ac roedd hi'n pledio ar i Iesu fwrw'r cythraul allan o'i merch.