Marc 6:40-47 beibl.net 2015 (BNET)

40. Felly dyma pawb yn eistedd mewn grwpiau o hanner cant i gant.

41. Wedyn dyma Iesu'n cymryd y pum torth a'r ddau bysgodyn, ac offrymu gweddi o ddiolch i Dduw. Torrodd y bara a'i roi i'w ddisgyblion i'w rannu i'r bobl, a gwneud yr un peth gyda'r ddau bysgodyn.

42. Cafodd pawb ddigon i'w fwyta,

43. a dyma nhw'n codi deuddeg llond basged o dameidiau o fara a physgod oedd dros ben.

44. Roedd tua pum mil o ddynion wedi cael eu bwydo yno!

45. Yn syth wedyn dyma Iesu'n gwneud i'w ddisgyblion fynd yn ôl i'r cwch a chroesi drosodd o'i flaen i Bethsaida, tra roedd yn anfon y dyrfa adre.

46. Ar ôl ffarwelio gyda nhw, aeth i ben mynydd er mwyn cael lle tawel i weddïo.

47. Roedd hi'n nosi, a'r cwch ar ganol y llyn, ac yntau ar ei ben ei hun ar y tir.

Marc 6