20. am fod gan Herod barch mawr at Ioan. Roedd yn ei amddiffyn am ei fod yn gwybod fod Ioan yn ddyn duwiol a chyfiawn. Er bod Herod yn anesmwyth wrth glywed beth oedd Ioan yn ei ddweud, roedd yn mwynhau gwrando arno.
21. Ond gwelodd Herodias ei chyfle pan oedd Herod yn dathlu ei ben-blwydd. Roedd ei brif swyddogion, penaethiaid y fyddin a phobl bwysig Galilea i gyd wedi eu gwahodd i'r parti.
22. Yn ystod y dathlu dyma ferch Herodias yn perfformio dawns. Roedd hi wedi plesio Herod a'i westeion yn fawr. Dwedodd Herod wrthi, “Gofyn am unrhyw beth gen i, a bydda i'n ei roi i ti.”
23. Rhoddodd ei air iddi ar lw, “Cei di beth bynnag rwyt ti eisiau, hyd yn oed hanner y deyrnas!”
24. Aeth y ferch allan at ei mam, “Am beth wna i ofyn?”, meddai wrthi.“Gofyn iddo dorri pen Ioan Fedyddiwr,” meddai ei mam wrthi.
25. Felly dyma hi yn brysio'n ôl i mewn at y brenin, gyda'i chais: “Dw i eisiau i ti dorri pen Ioan Fedyddiwr nawr, a'i roi i mi ar hambwrdd.”
26. Doedd y brenin ddim yn hapus o gwbl – roedd yn hollol ddigalon. Ond am ei fod wedi addo ar lw o flaen ei westeion, doedd ganddo mo'r wyneb i'w gwrthod hi.
27. Felly dyma fe'n anfon un o'i filwyr ar unwaith i ddienyddio Ioan. “Tyrd â'i ben yn ôl yma,” meddai. Felly aeth y milwr i'r carchar a thorri pen Ioan i ffwrdd.
28. Daeth yn ei ôl gyda'r pen ar hambwrdd a'i roi i'r ferch, ac aeth hithau ag e i'w mam.
29. Pan glywodd disgyblion Ioan beth oedd wedi digwydd dyma nhw'n cymryd y corff a'i roi mewn bedd.
30. Pan gyrhaeddodd yr apostolion yn ôl, dyma nhw'n dechrau dweud yn frwd wrth Iesu am y cwbl roedden nhw wedi ei wneud a'i ddysgu.