27. Roedd wedi clywed am Iesu, a sleifiodd y tu ôl iddo yng nghanol y dyrfa,
28. gan feddwl, “Dim ond i mi lwyddo i gyffwrdd ei ddillad, ca i fy iacháu.” Pan lwyddodd i gyffwrdd ymyl ei glogyn
29. dyma'r gwaedu yn stopio'n syth. Roedd hi'n gallu teimlo ei bod wedi ei hiacháu.
30. Sylweddolodd Iesu fod nerth wedi llifo allan ohono, a throdd yng nghanol y dyrfa a gofyn, “Pwy gyffyrddodd fy nillad i?”
31. Atebodd ei ddisgyblion, “Sut alli di ofyn y fath gwestiwn a'r dyrfa yma'n gwthio o dy gwmpas di?”
32. Ond roedd Iesu'n dal i edrych o gwmpas i weld pwy oedd wedi ei gyffwrdd.
33. Roedd y wraig yn gwybod yn iawn beth oedd wedi digwydd iddi, ac felly dyma hi'n dod ac yn syrthio o'i flaen yn dal i grynu. Dwedodd yr hanes i gyd wrtho.
34. Yna meddai e wrthi, “Wraig annwyl, am i ti gredu rwyt wedi dy iacháu. Dos adre! Bendith Duw arnat ti! Mae'r dioddef ar ben.”
35. Tra roedd Iesu'n siarad, roedd rhyw bobl o dŷ Jairus wedi cyrraedd, a dweud wrtho, “Mae dy ferch wedi marw, felly does dim pwynt poeni'r athro ddim mwy.”
36. Ond chymerodd Iesu ddim sylw o beth gafodd ei ddweud, dim ond dweud wrth Jairus, “Paid bod ofn; dalia i gredu.”
37. Dim ond Pedr, a Iago a'i frawd Ioan gafodd fynd yn eu blaenau gyda Iesu.