16. Pan ddwedodd y llygad-dystion eto beth oedd wedi digwydd i'r dyn a'r moch,
17. dyma'r bobl yn mynnu fod Iesu'n gadael eu hardal.
18. Pan oedd Iesu ar fin mynd i mewn i'r cwch, dyma'r dyn oedd wedi bod yng ngafael y cythreuliaid yn dod ato ac erfyn am gael aros gydag e.
19. “Na,” meddai Iesu, “Dos adre at dy deulu a dywed wrthyn nhw am y cwbl mae Duw wedi ei wneud i ti, a sut mae wedi bod mor drugarog.”
20. Felly i ffwrdd â'r dyn a dechrau dweud wrth bawb yn ardal Decapolis am bopeth oedd Iesu wedi ei wneud iddo. Roedd pawb wedi eu syfrdanu.
21. Ar ôl i Iesu groesi mewn cwch yn ôl i ochr arall Llyn Galilea, dyma dyrfa fawr yn casglu o'i gwmpas ar lan y dŵr.
22. Daeth un o arweinwyr y synagog ato, dyn o'r enw Jairus. Aeth ar ei liniau o flaen Iesu
23. a phledio'n daer, “Mae fy merch fach i'n marw. Plîs tyrd i'w hiacháu drwy roi dy ddwylo arni, iddi gael byw.”
24. Felly aeth Iesu gyda'r dyn. Roedd tyrfa fawr o bobl o'i gwmpas yn gwthio o bob cyfeiriad.
25. Yn eu canol roedd gwraig oedd wedi bod â gwaedlif arni ers deuddeng mlynedd.
26. Roedd hi wedi dioddef yn ofnadwy dan ofal llawer o feddygon, ac wedi gwario ei harian i gyd ar gael ei thrin, ond yn lle gwella roedd hi wedi mynd o ddrwg i waeth.
27. Roedd wedi clywed am Iesu, a sleifiodd y tu ôl iddo yng nghanol y dyrfa,
28. gan feddwl, “Dim ond i mi lwyddo i gyffwrdd ei ddillad, ca i fy iacháu.” Pan lwyddodd i gyffwrdd ymyl ei glogyn
29. dyma'r gwaedu yn stopio'n syth. Roedd hi'n gallu teimlo ei bod wedi ei hiacháu.