5. Dyma beth o'r had yn syrthio ar dir creigiog lle doedd ond haen denau o bridd. Tyfodd yn ddigon sydyn
6. ond yn yr haul poeth dyma'r tyfiant yn gwywo. Doedd ganddo ddim gwreiddiau.
7. Yna dyma beth o'r had yn syrthio i ganol drain. Tyfodd y drain a thagu'r planhigion, felly doedd dim grawn yn y dywysen.
8. Ond syrthiodd peth o'r had ar bridd da. Tyfodd cnwd da yno – cymaint â thri deg, chwe deg neu hyd yn oed gan gwaith mwy na gafodd ei hau.”
9. “Gwrandwch yn ofalus os dych chi'n awyddus i ddysgu!”
10. Yn nes ymlaen, pan oedd ar ei ben ei hun, dyma'r deuddeg disgybl a rhai eraill oedd o'i gwmpas yn gofyn iddo beth oedd ystyr y stori.
11. Dyma ddwedodd wrthyn nhw: “Dych chi'n cael gwybod y gyfrinach am deyrnasiad Duw. Ond i'r rhai sydd y tu allan dydy'r cwbl ddim ond straeon.
12. Felly, ‘maen nhw'n edrych yn ofalus ond yn gweld dim, maen nhw'n clywed yn iawn ond byth yn deall; rhag iddyn nhw droi cefn ar bechod a chael maddeuant!’”
13. “Os dych chi ddim yn deall y stori yma, sut dych chi'n mynd i ddechrau deall unrhyw stori gen i!
14. Mae'r ffermwr yn cynrychioli rhywun sy'n rhannu neges Duw gyda phobl.
15. Yr had ar y llwybr ydy'r bobl hynny sy'n clywed y neges, ond mae Satan yn dod yr eiliad honno ac yn cipio'r neges oddi arnyn nhw.