Marc 4:25-36 beibl.net 2015 (BNET)

25. Bydd y rhai sydd wedi deall rhywfaint eisoes yn derbyn mwy; ond am y rhai hynny sydd heb ddeall dim, bydd hyd yn oed beth maen nhw'n meddwl eu bod yn ei ddeall yn cael ei gymryd oddi arnyn nhw.”

26. Dwedodd Iesu wedyn, “Dyma i chi ddarlun arall o deyrnasiad Duw. Mae fel ffermwr yn hau had ar y tir.

27. Mae'r wythnosau'n mynd heibio, a'r dyn yn cysgu'r nos ac yn codi'r bore. Mae'r had gafodd ei hau yn egino ac yn dechrau tyfu heb i'r dyn wneud dim mwy.

28. Mae'r cnwd yn tyfu o'r pridd ohono'i hun – gwelltyn yn gyntaf, wedyn y dywysen, a'r hadau yn y dywysen ar ôl hynny.

29. Pan mae'r cnwd o wenith wedi aeddfedu, mae'r ffermwr yn ei dorri gyda'i gryman am fod y cynhaeaf yn barod.”

30. Gofynnodd wedyn: “Sut mae disgrifio teyrnasiad Duw? Pa ddarlun arall allwn ni ddefnyddio?

31. Mae fel hedyn mwstard yn cael ei blannu yn y pridd. Er mai dyma'r hedyn lleia un

32. mae'n tyfu i fod y planhigyn mwya yn yr ardd. Mae adar yn gallu nythu a chysgodi yn ei ganghennau!”

33. Roedd Iesu'n defnyddio llawer o straeon fel hyn i rannu ei neges, cymaint ag y gallen nhw ei ddeall.

34. Doedd e'n dweud dim heb ddefnyddio stori fel darlun. Ond yna roedd yn esbonio'r cwbl i'w ddisgyblion pan oedd ar ei ben ei hun gyda nhw.

35. Yn hwyr y p'nawn hwnnw, a hithau'n dechrau nosi, dwedodd Iesu wrth ei ddisgyblion, “Gadewch i ni groesi i ochr draw'r llyn.”

36. Felly dyma nhw'n gadael y dyrfa, a mynd gyda Iesu yn y cwch roedd wedi bod yn eistedd ynddo. Aeth cychod eraill gyda nhw hefyd.

Marc 4