14. Mae'r ffermwr yn cynrychioli rhywun sy'n rhannu neges Duw gyda phobl.
15. Yr had ar y llwybr ydy'r bobl hynny sy'n clywed y neges, ond mae Satan yn dod yr eiliad honno ac yn cipio'r neges oddi arnyn nhw.
16. Wedyn yr had gafodd ei hau ar dir creigiog ydy'r bobl hynny sy'n derbyn y neges yn frwd i ddechrau.
17. Ond dydy'r neges ddim yn gafael ynddyn nhw go iawn, a dŷn nhw ddim yn para'n hir iawn. Pan mae argyfwng yn codi, neu wrthwynebiad am eu bod wedi credu, maen nhw'n troi cefn yn ddigon sydyn.
18. Wedyn mae pobl eraill yn gallu bod fel yr had syrthiodd i ganol drain. Maen nhw'n clywed y neges,
19. ond maen nhw'n rhy brysur yn poeni am hyn a'r llall, yn ceisio gwneud arian a chasglu mwy a mwy o bethau. Felly mae'r neges yn cael ei thagu a does dim ffrwyth i'w weld yn eu bywydau.
20. Ond yr had sy'n syrthio ar dir da ydy'r bobl hynny sy'n clywed y neges ac yn ei chredu. Mae'r effaith ar eu bywydau nhw fel cnwd anferth – tri deg, chwe deg, neu hyd yn oed gan gwaith mwy na gafodd ei hau.”
21. Dwedodd wrthyn nhw wedyn, “Ydych chi'n mynd â lamp i mewn i ystafell ac yna'n rhoi powlen drosti neu'n ei chuddio dan y gwely? Na, dych chi'n gosod y lamp ar fwrdd iddi oleuo'r ystafell.
22. Bydd popeth sydd wedi ei guddio yn cael ei weld yn glir maes o law. Bydd pob cyfrinach yn dod i'r golwg.
23. Gwrandwch yn ofalus os dych chi'n awyddus i ddysgu!”
24. Yna aeth yn ei flaen i ddweud “Gwyliwch beth dych chi'n gwrando arno. Y mesur dych chi'n ei ddefnyddio fydd yn cael ei ddefnyddio arnoch chi – a mwy!
25. Bydd y rhai sydd wedi deall rhywfaint eisoes yn derbyn mwy; ond am y rhai hynny sydd heb ddeall dim, bydd hyd yn oed beth maen nhw'n meddwl eu bod yn ei ddeall yn cael ei gymryd oddi arnyn nhw.”
26. Dwedodd Iesu wedyn, “Dyma i chi ddarlun arall o deyrnasiad Duw. Mae fel ffermwr yn hau had ar y tir.
27. Mae'r wythnosau'n mynd heibio, a'r dyn yn cysgu'r nos ac yn codi'r bore. Mae'r had gafodd ei hau yn egino ac yn dechrau tyfu heb i'r dyn wneud dim mwy.
28. Mae'r cnwd yn tyfu o'r pridd ohono'i hun – gwelltyn yn gyntaf, wedyn y dywysen, a'r hadau yn y dywysen ar ôl hynny.
29. Pan mae'r cnwd o wenith wedi aeddfedu, mae'r ffermwr yn ei dorri gyda'i gryman am fod y cynhaeaf yn barod.”
30. Gofynnodd wedyn: “Sut mae disgrifio teyrnasiad Duw? Pa ddarlun arall allwn ni ddefnyddio?
31. Mae fel hedyn mwstard yn cael ei blannu yn y pridd. Er mai dyma'r hedyn lleia un
32. mae'n tyfu i fod y planhigyn mwya yn yr ardd. Mae adar yn gallu nythu a chysgodi yn ei ganghennau!”