1. Dechreuodd Iesu ddysgu'r bobl ar lan Llyn Galilea unwaith eto. Roedd tyrfa enfawr wedi casglu o'i gwmpas nes bod rhaid iddo eistedd mewn cwch ar y llyn, tra roedd y bobl i gyd yn sefyll ar y lan.
2. Roedd yn defnyddio llawer o straeon i ddarlunio beth roedd yn ei ddysgu iddyn nhw.
3. “Gwrandwch!” meddai:“Aeth ffermwr allan i hau hadau.
4. Wrth iddo wasgaru'r had, dyma peth ohono yn syrthio ar y llwybr, a dyma'r adar yn dod a'i fwyta.
5. Dyma beth o'r had yn syrthio ar dir creigiog lle doedd ond haen denau o bridd. Tyfodd yn ddigon sydyn
6. ond yn yr haul poeth dyma'r tyfiant yn gwywo. Doedd ganddo ddim gwreiddiau.
7. Yna dyma beth o'r had yn syrthio i ganol drain. Tyfodd y drain a thagu'r planhigion, felly doedd dim grawn yn y dywysen.
8. Ond syrthiodd peth o'r had ar bridd da. Tyfodd cnwd da yno – cymaint â thri deg, chwe deg neu hyd yn oed gan gwaith mwy na gafodd ei hau.”