Marc 3:13-25 beibl.net 2015 (BNET)

13. Aeth Iesu i fyny i ben mynydd a galw ato y rhai roedd wedi eu dewis, a dyma nhw'n mynd ato.

14. Dewisodd ddeuddeg ohonyn nhw fel ei gynrychiolwyr personol. Nhw fyddai gydag e drwy'r amser, ac roedd am eu hanfon allan i gyhoeddi'r newyddion da,

15. a rhoi awdurdod iddyn nhw i fwrw cythreuliaid allan o bobl.

16. Y deuddeg a ddewisodd oedd: Simon (yr un roedd Iesu'n ei alw'n Pedr);

17. Iago fab Sebedeus a'i frawd Ioan (“Meibion y Daran” oedd Iesu'n eu galw nhw);

18. Andreas, Philip, Bartholomeus, Mathew, Tomos, Iago fab Alffeus, Thadeus, Simon y Selot

19. a Jwdas Iscariot (yr un a'i bradychodd).

20. Pan aeth Iesu yn ôl i'r tŷ lle roedd yn aros, roedd cymaint o dyrfa wedi casglu yno nes bod dim cyfle i'w ddisgyblion ac yntau gael bwyta hyd yn oed.

21. Pan glywodd ei deulu am hyn, dyma nhw'n penderfynu fod rhaid rhoi stop ar y peth. “Mae'n wallgof”, medden nhw.

22. Roedd yr arbenigwyr yn y Gyfraith, oedd wedi teithio o Jerwsalem, yn dweud amdano, “Mae wedi ei feddiannu gan Beelsebwl, tywysog y cythreuliaid! Dyna sut mae'n gallu bwrw allan gythreuliaid!”

23. Felly dyma Iesu'n eu galw draw ac yn eu hateb drwy ddefnyddio darlun: “Sut mae Satan yn gallu bwrw ei hun allan?

24. Dydy teyrnas lle mae rhyfel cartref byth yn mynd i sefyll!

25. Neu os ydy teulu yn ymladd â'i gilydd o hyd, bydd y teulu hwnnw'n chwalu.

Marc 3