1. Dro arall eto pan aeth Iesu i'r synagog, roedd yno ddyn oedd â'i law yn ddiffrwyth.
2. Roedd yna rai yn gwylio Iesu'n ofalus i weld a fyddai'n iacháu'r dyn ar y Saboth. Roedden nhw'n edrych am unrhyw esgus i'w gyhuddo!
3. Dyma Iesu'n galw'r dyn ato, “Tyrd i sefyll yma'n y canol.”
4. Wedyn dyma Iesu'n gofyn i'r rhai oedd eisiau ei gyhuddo, “Beth mae'r Gyfraith yn ei ddweud sy'n iawn i'w wneud ar y dydd Saboth: pethau da neu bethau drwg? Achub bywyd neu ladd?” Ond wnaeth neb ateb.
5. Edrychodd Iesu arnyn nhw bob yn un – roedd yn ddig ac wedi cynhyrfu drwyddo am eu bod mor ystyfnig. Yna dwedodd wrth y dyn, “Estyn dy law allan.” Ac wrth i'r dyn wneud hynny cafodd y llaw ei gwella'n llwyr.
6. Dyma'r Phariseaid yn mynd allan ar unwaith i drafod gyda chefnogwyr Herod sut allen nhw ladd Iesu.
7. Aeth Iesu at y llyn gyda'i ddisgyblion iddyn nhw gael ychydig o lonydd, ond dyma dyrfa fawr yn ei ddilyn – pobl o Galilea, ac o Jwdea,
8. Jerwsalem, ac Idwmea yn y de, a hyd yn oed o'r ardaloedd yr ochr draw i'r Iorddonen ac o ardal Tyrus a Sidon yn y gogledd. Roedd pawb eisiau ei weld ar ôl clywed am y pethau roedd yn eu gwneud.