14. Yna wrth fynd yn ei flaen, gwelodd Lefi fab Alffeus yn eistedd yn y swyddfa dollau lle roedd yn gweithio. “Tyrd, dilyn fi,” meddai Iesu wrtho; a chododd Lefi ar unwaith a mynd ar ei ôl.
15. Yn nes ymlaen aeth Iesu a'i ddisgyblion am bryd o fwyd i dŷ Lefi. Roedd criw mawr o'r rhai oedd yn casglu trethi i Rufain a phobl eraill roedd y Phariseaid yn eu hystyried yn ‛bechaduriaid‛ yn y parti hefyd. (Pobl felly oedd llawer o'r rhai oedd yn dilyn Iesu).
16. Wrth iddyn nhw ei weld e'n bwyta gyda ‛pechaduriaid‛ a casglwyr trethi, dyma rai o'r Phariseaid oedd yn arbenigwyr yn y Gyfraith yn gofyn i'w ddisgyblion: “Pam mae e'n bwyta gyda'r bradwyr sy'n casglu trethi i Rufain, a phobl eraill sy'n ddim byd ond ‛pechaduriaid‛?”
17. Clywodd Iesu hyn, a dwedodd wrthyn nhw, “Dim pobl iach sydd angen meddyg, ond pobl sy'n sâl. Dw i wedi dod i alw pechaduriaid, dim y rhai sy'n meddwl eu bod nhw heb fai.”
18. Roedd disgyblion Ioan a'r Phariseaid yn ymprydio (hynny ydy, peidio bwyta am gyfnod er mwyn ceisio canolbwyntio'n llwyr ar Dduw). Felly dyma rhyw bobl yn gofyn i Iesu, “Mae disgyblion Ioan a disgyblion y Phariseaid yn ymprydio, ond dydy dy ddisgyblion di ddim. Pam?”