1. Ychydig ddyddiau wedyn, aeth Iesu yn ôl i Capernaum. Aeth y si o gwmpas ei fod wedi dod adre,
2. a daeth tyrfa mor fawr i'w weld nes bod dim lle hyd yn oed i sefyll y tu allan i'r drws. Dyma Iesu'n cyhoeddi neges Duw iddyn nhw.
3. Yna daeth rhyw bobl â dyn oedd wedi ei barlysu ato. Roedd pedwar yn ei gario,
4. ond yn methu mynd yn agos at Iesu am fod yno gymaint o dyrfa. Felly dyma nhw'n torri twll yn y to uwch ei ben, a gollwng y dyn i lawr ar y fatras oedd yn gorwedd arni.