Marc 16:3-17 beibl.net 2015 (BNET)

3. Roedden nhw wedi bod yn trafod ar eu ffordd yno pwy oedd yn mynd i rolio'r garreg oddi ar geg y bedd iddyn nhw.

4. Ond pan gyrhaeddon nhw'r bedd dyma nhw'n gweld fod y garreg, oedd yn un drom iawn, eisoes wedi ei rholio i ffwrdd.

5. Wrth gamu i mewn i'r bedd, dyma nhw'n dychryn, achos roedd dyn ifanc yn gwisgo mantell wen yn eistedd yno ar yr ochr dde.

6. “Peidiwch dychryn,” meddai wrthyn nhw. “Dych chi'n edrych am Iesu o Nasareth gafodd ei groeshoelio. Mae wedi dod yn ôl yn fyw! Dydy e ddim yma. Edrychwch, dyma lle cafodd ei gorff ei roi i orwedd.

7. Ewch, a dweud wrth ei ddisgyblion a Pedr, ‘Mae Iesu'n mynd i Galilea o'ch blaen chi. Cewch ei weld yno, yn union fel roedd wedi dweud.’”

8. Dyma'r gwragedd yn mynd allan ac yn rhedeg oddi wrth y bedd, yn crynu drwyddynt ac mewn dryswch. Roedd ganddyn nhw ofn dweud wrth unrhyw un am y peth.

9. Pan ddaeth Iesu yn ôl yn fyw yn gynnar ar y bore Sul, dangosodd ei hun gyntaf i Mair Magdalen, y wraig y bwriodd saith o gythreuliaid allan ohoni.

10. Aeth hithau i ddweud wrth y rhai oedd wedi bod gydag e. Roedden nhw'n galaru ac yn crïo.

11. Pan ddwedodd hi fod Iesu'n fyw a'i bod hi wedi ei weld, doedden nhw ddim yn ei chredu.

12. Dangosodd ei hun wedyn, mewn ffurf wahanol, i ddau o'i ddilynwyr oedd ar eu ffordd o Jerwsalem i'r wlad.

13. Dyma nhw hefyd yn brysio'n ôl i Jerwsalem i ddweud wrth y lleill; ond doedden nhw ddim yn eu credu nhw chwaith.

14. Yn nes ymlaen dangosodd Iesu ei hun i'r unarddeg disgybl pan oedden nhw'n cael pryd o fwyd. Ar ôl dweud y drefn wrthyn nhw am fod mor ystyfnig yn gwrthod credu y rhai oedd wedi ei weld ar ôl iddo ddod yn ôl yn fyw,

15. dwedodd wrthyn nhw, “Ewch i gyhoeddi'r newyddion da i bawb drwy'r byd i gyd.

16. Bydd pob un sy'n credu ac yn cael ei fedyddio yn cael ei achub, ond pob un sy'n gwrthod credu yn cael ei gondemnio.

17. A bydd yr arwyddion gwyrthiol yma'n digwydd i'r rhai sy'n credu: Byddan nhw'n bwrw cythreuliaid allan o bobl yn fy enw i; ac yn siarad ieithoedd gwahanol.

Marc 16