Marc 16:13-20 beibl.net 2015 (BNET)

13. Dyma nhw hefyd yn brysio'n ôl i Jerwsalem i ddweud wrth y lleill; ond doedden nhw ddim yn eu credu nhw chwaith.

14. Yn nes ymlaen dangosodd Iesu ei hun i'r unarddeg disgybl pan oedden nhw'n cael pryd o fwyd. Ar ôl dweud y drefn wrthyn nhw am fod mor ystyfnig yn gwrthod credu y rhai oedd wedi ei weld ar ôl iddo ddod yn ôl yn fyw,

15. dwedodd wrthyn nhw, “Ewch i gyhoeddi'r newyddion da i bawb drwy'r byd i gyd.

16. Bydd pob un sy'n credu ac yn cael ei fedyddio yn cael ei achub, ond pob un sy'n gwrthod credu yn cael ei gondemnio.

17. A bydd yr arwyddion gwyrthiol yma'n digwydd i'r rhai sy'n credu: Byddan nhw'n bwrw cythreuliaid allan o bobl yn fy enw i; ac yn siarad ieithoedd gwahanol.

18. Byddan nhw'n gallu gafael mewn nadroedd; ac os byddan nhw'n yfed gwenwyn, fyddan nhw ddim yn dioddef o gwbl; byddan nhw'n gosod eu dwylo ar bobl sy'n glaf, a'u hiacháu nhw.”

19. Ar ôl i'r Arglwydd Iesu orffen siarad â nhw, cafodd ei gymryd i fyny i'r nefoedd i lywodraethu yno gyda Duw.

20. O hynny ymlaen aeth y disgyblion allan i bregethu ym mhob man. Roedd yr Arglwydd yn gweithio gyda nhw, ac yn cadarnhau fod y neges yn wir drwy'r arwyddion gwyrthiol oedd yn digwydd yr un pryd.

Marc 16